Rhif y ddeiseb: P-06-1347

Teitl y ddeiseb: Adolygu polisïau Anghenion Dysgu Ychwanegol a’i gwneud yn orfodol i hyfforddi pob athro a chynorthwyydd addysgu mewn technegau rheoleiddio YN LLAWN

Geiriad y ddeiseb:  Rwy’n galw am adolygiad o’r polisïau anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion a chynnydd anferth yn y gefnogaeth a roddir i’r 40 y cant o’n plant sy’n wynebu trafferthion bob dydd. Mae angen dysgu iddynt dechnegau hunanreoli o'r blynyddoedd cynnar, a thrwy hynny greu ystafelloedd dosbarth hapusach, llai trafferthus, a rhoi iddynt flwch offer a fydd gyda nhw am oes. Yn y tymor hir, byddai gostyngiad mewn problemau iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a chyfraddau troseddu.

Nid oes ond ychydig iawn o gyfleusterau addysgu arbenigol Cymraeg. Mae hyn yn gwahaniaethu yn erbyn hawl plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg.

1. Dylai hyfforddiant athrawon yn y brifysgol ganolbwyntio'n sylweddol ar ADY er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn effeithiol. Mae gan 40 y cant o ddysgwyr ryw fath o ADY. Dylai hyn fod yn orfodol, nid dewisol! Mae strategaethau ADY yn helpu pob dysgwr.

2. Ymgyrch Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth – mae niwroamrywiaeth yn effeithio ar o leiaf 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru. Dylai dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o niwroddatblygiadol a sut mae'n ymddangos ac yn effeithio ar bobl fod yn gyffredin er mwyn sicrhau Cymru gynhwysol.

3. Cefnogaeth i gynorthwywyr addysgu – mae angen i gynorthwywyr addysgu gael eu gwerthfawrogi, eu hyfforddi a'u talu'n iawn.

4. Cyllid ar gyfer athro niwroamrywiaeth arbenigol a chynorthwyydd addysgu ym mhob awdurdod lleol i gefnogi, arwain a hyfforddi staff yn yr ysgol.

5.  Nid yw darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg yn cael ei chefnogi cystal ag y mae darpariaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ac nid yw hyn yn darparu cydraddoldeb a chynhwysiant i ddysgwyr Cymraeg.

Bellach, mae 40 i 60 y cant o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cyffredinol yn methu â chael cod o dan y cod newydd Darpariaeth Gyffredinol yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg.

7.  Cymorth i rieni gan staff hyfforddedig a all eu cyfeirio at gymorth ar gyfer anghenion eu plant.    

 


1.        Cefndir

1.1.            Diwygiadau i Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae darpariaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn diwygio'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yng Nghymru. Mae’r term ‘Anghenion Addysgol Arbennig’ yn cael ei ddisodli gan “Anghenion Dysgu Ychwanegol” (ADY), ond, yn ei hanfod, mae’r un diffiniad yn cael ei gadw, sef:

§    mae dysgwr yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na mwyafrif y dysgwyr eraill sydd o'r un oedran (ac ni ellir ei gynorthwyo drwy ddulliau dysgu gwahaniaethol yn unig); neu

§    mae gan y dysgwr anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran; ac

§    mae’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol.

Yn lle system tair haen, fel gyda’r system AAA ar hyn o bryd (sy’n golygu mai dim ond y rhai sydd â’r anghenion mwyaf difrifol/cymhleth sy’n cael datganiadau statudol), rhoddir Cynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol i bob dysgwr ag ADY yn nodi ei anghenion a pha ymyriadau sydd eu hangen arno.

Mae’r system ADY newydd yn cael ei chyflwyno’n raddol dros gyfnod o bedair blynedd o fis Medi 2021 tan fis Awst 2025. Mae pob dysgwr sydd newydd ei nodi ag ADY yn dod o dan y system newydd, gyda’r rhai sydd eisoes yn y system AAA yn trosglwyddo rhwng mis Ionawr 2022 a mis Awst 2023, neu rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2025, yn dibynnu ar ba grŵp blwyddyn y maent yn perthyn iddo ac a ydynt yn cael cymorth ar hyn o bryd o dan Weithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy neu a oes ganddynt ddatganiad AAA. Mae'r proffil amser ar gyfer trosglwyddo disgyblion â datganiadau AAA yn gyffredinol yn hwyrach o fewn y cyfnod pedair blynedd nag y mae ar gyfer y rhai sydd o dan Weithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr erthygl gan Ymchwil y Senedd (mis Ebrill 2023).

1.2.          Addysg Gychwynnol i Athrawon

I fod yn athro ac i addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, mae angen i unigolion ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC).  Gwneir hyn trwy gyrraedd set o Safonau Proffesiynol a amlinellir mewn deddfwriaeth.  Mae darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yn gyfrifol am gynllunio eu rhaglenni fel y gall athrawon dan hyfforddiant ddangos eu bod yn bodloni’r safonau gofynnol. Mae cynnwys y rhaglenni AGA yn ôl disgresiwn y darparwyr, ond rhaid iddynt gael eu hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Yn llythyr Gweinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor, mae’n datgan bod disgwyliadau ar gyfer cefnogi dysgwyr ag ADY fel rhan o astudiaethau craidd athrawon dan hyfforddiant wedi'u cryfhau o dan y meini prawf achredu newydd ar gyfer rhaglenni AGA, (o fis Medi 2024).

1.3.          Dysgu proffesiynol

Mae gan bob athro a chynorthwyydd addysgu Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol  Mae gan bob gweithiwr addysg proffesiynol hawl i:

§    daith dysgu proffesiynol unigol;

§    dysgu proffesiynol wedi ei gynllunio'n dda sy'n cynnwys cyfuniad o ddulliau a chyfleoedd i fyfyrio, ymholi a chydweithio ar gyfer dysgu; a

§    gweithio mewn ysgol neu leoliad, neu sefydliad sy'n ystyried ei hun yn sefydliad sy’n dysgu ac sy’n defnyddio safonau proffesiynol ym mhob agwedd ar ddatblygiad proffesiynol.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai ymarferwyr, wrth gynllunio eu dysgu proffesiynol, geisio cynnwys dysgu proffesiynol ar:

§    y Cwricwlwm i Gymru

§    anghenion dysgu ychwanegol

§    ymgorffori tegwch, lles a'r Gymraeg ar draws cymuned gyfan yr ysgol.

1.4.          Cefnogaeth i gynorthwywyr addysgu

Ar 18 Chwefror 2022, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig, sef Diweddariad ar weithgareddau i gefnogi’r rhai sy’n cynorthwyo addysgu. Dywedodd fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a oedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, undebau llafur, awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg, cynorthwywyr addysgu a chynrychiolaeth penaethiaid, wedi nodi sawl maes allweddol i roi sylw iddynt:

§    y defnydd a wneir o gynorthwywyr addysgu;

§    mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol;

§    safoni rolau;

§    cyflog.

1.5.          Addysg cyfrwng Cymraeg

Yn ei lythyr at y Pwyllgor, mae’r Gweinidog yn nodi bod sicrhau cyflenwad o athrawon a chynorthwywyr addysgu Cymraeg medrus yn rhan allweddol o ddatblygu’r gweithlu Cymraeg. Mae'r Cynllun Gweithlu Cymraeg Mewn Addysg (Mai 2022) yn nodi nifer o gamau gweithredu gan gynnwys datblygu a hyrwyddo mwy o lwybrau i ddod yn gynorthwywyr addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a datblygu dysgu proffesiynol penodol wedi’i dargedu, er mwyn i bob cynorthwyydd addysgu fod yn hyderus i gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu Cymraeg.  Nodir hefyd yn y cynllun:

Mae'r data yn nhabl 2.1 o’r ddogfen ddadansoddiad data yn dangos bod gennym broblem benodol o ran cynorthwywyr addysgu, ac mae'r niferoedd yn awgrymu nad oes gennym gyflenwad digonol o weithwyr ar hyn o bryd sydd â sgiliau Cymraeg i lenwi rolau mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg adroddiad ar y cyd, y Gymraeg yn y Gyfundrefn Anghenion Dysgu Ychwanegol ym mis Mehefin 2023. Roedd y canfyddiadau’n cynnwys y canlynol:

§    Er bod rhai awdurdodau wedi adrodd eu bod yn gallu darparu yn Gymraeg ar gyfer pob math o ADY, roedd mwyafrif yr awdurdodau yn adrodd am eu diffyg gallu i ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer nifer o anghenion.

§    Mae nifer helaeth o awdurdodau lleol yn cydnabod nad yw darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg yn cwrdd ag anghenion dysgwyr.  Naill ai mae disgyblion cyfrwng Cymraeg yn gorfod derbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Saesneg, yn methu â chael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt, neu mae’r dysgwyr sydd ag ADY mwy cymhleth yn dewis addysg cyfrwng Saesneg o’r cychwyn gan eu bod eisoes yn ymwybodol o ddiffyg cefnogaeth cyfrwng Cymraeg.

Nododd ddwy ‘her allweddol’:

§    Diffyg gweithlu arbenigol sydd â’r sgiliau ieithyddol priodol.

§    Mae cynnig darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg yn anodd pan fo’r niferoedd fyddai’n debygol o fanteisio ar y ddarpariaeth yn gymharol fychan mewn nifer o siroedd.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (adran 63) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried digonolrwydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu hardal wrth gyflawni dyletswydd i adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn barhaus. Mae Adran 89 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru drefnu adolygiadau o ddigonolrwydd y ddarpariaeth dysgu ychwanegol yn Gymraeg.

1.6.          Casglu data a chodio

Mae’r Deisebydd yn nodi bod ‘40 i 60 y cant o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cyffredinol yn methu â chael cod o dan y cod newydd Darpariaeth Gyffredinol yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg’.  Mae'r Gweinidog yn nodi nad yw 'darpariaeth gyffredinol' yn derm a ddiffinnir yn y gyfraith ac nad yw’r Cod ADY yn cyfeirio ato. Mae’n nodi ei bod yn ymddangos bod dileu'r categori Anawsterau Dysgu Cyffredinol wedi arwain at dynnu llawer o ddisgyblion oddi ar y gofrestr AAA yn gyfan gwbl gan nad oedd modd eu cynnwys mewn categori arall. 

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mai 2023  fod y sefyllfa wedi newid cryn dipyn ers i’r diwygiadau ADY gael eu creu a bod dull mwy cynhwysol y Cwricwlwm i Gymru yn golygu y gall anghenion rhai dysgwyr ag ADY ar lefel is bellach gael eu diwallu drwy ddarpariaeth ystafell ddosbarth gyffredinol mewn ffyrdd nad oedd yn ymarferol cyn hynny.

Mae nifer y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt ADY wedi gostwng bron i draean ers i’r system newydd ddechrau cael ei chyflwyno (o 92,688 yn 2021 i 63,089 yn 2023). Gweler erthygl Ymchwil y Senedd, Nodi anghenion dysgu ychwanegol: A yw’r bar wedi’i godi neu a oedd y bar yn rhy isel cyn hynny?  (Hydref 2022) sy’n rhoi mwy o wybodaeth gefndirol ar y newid hwn.

Cyfran y disgyblion y nodir bod ganddynt ADY yw 13 y cant yn 2023 (gostyngiad o’r ffigur o 20 y cant yn 2021). Dros y degawd blaenorol, roedd y gyfradd rhwng 20 y cant a 22 y cant (yn llai na’r ffigur o 40 y cant a roddwyd gan y deisebydd).

2.     Camau gan Senedd Cymru

2.1.          Y Pwyllgor Deisebau

Yn 2017, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau’r ddeiseb P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth. Bryd hynny, dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y pryd, fod Llywodraeth Cymru wedi lansio Rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd a’i bod yn ei hymestyn i ysgolion uwchradd ac Addysg Bellach.  Nod y rhaglen oedd cynyddu'r gallu i adnabod arwyddion o awtistiaeth pan fyddai dysgwyr yn iau.  Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar y meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni AGA.  Mae’r meini prawf hyn yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, hyd at fis Medi 2024.  Caewyd y Ddeiseb yn 2017.

Ar 27 Chwefror 2023, ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog Yng ngoleuni'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â’r materion (gweler paragraff 1.4 uchod), cytunodd y Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor ac i ofyn am ddiweddariad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Ionawr 2024.

2.2.        Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad, A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?  Mae’r Pwyllgor yn ystyried sut mae plant a phobl ifanc sy’n niwroamrywiol, sydd ag anableddau corfforol neu nam ar y synhwyrau neu anableddau dysgu yn gallu cael mynediad at bob agwedd ar addysg a gofal plant.  Bydd y Pwyllgor yn parhau i glywed tystiolaeth yn yr hydref.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.